Croeso!

Mae prosiect Fferm Wynt Mynydd Fforch-dwm yn cael ei gyflwyno gan Naturalis Energy i ddarparu ynni glân i gartrefi a busnesau ledled de Cymru.

Mae’r prosiect ger pentref Ton-mawr yn ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae’r safle o fewn ardal wedi’i hasesu ymlaen llaw ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy newydd. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod yr ardal yn addas i gynhyrchu ynni glân.

Buddsoddiad cymunedol

Cyflenwyr lleol

Diwrnod Agored i’r Gymuned a Busnesau

Mae Naturalis yn cynnal diwrnod agored i’r gymuned a busnesau ar 9 Hydref 2025 rhwng 4-7pm yng Nghlwb Rygbi Ton-mawr.  

Ymunwch â ni ar gyfer ein diwrnod agored cyn adeiladu i gwrdd â thîm y prosiect, trafod syniadau ar gyfer cynlluniau budd cymunedol a chlywed y cynlluniau ar gyfer y gwaith adeiladu.

Croeso i fusnesau lleol!

Os ydych chi’n fusnes lleol, neu’n gwybod am fusnes lleol a allai ein cyflenwi yn ystod y gwaith adeiladu a’r cyfnod gweithredu, dewch i’r diwrnod agored i drafod cyfleoedd. 

Cafodd y cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt Mynydd Fforch Dwm eu cymeradwyo ym mis Rhagfyr 2024 gan Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

Drwy ddefnyddio technoleg tyrbinau gwynt well, bydd MFfD bellach yn cynnwys pedwar tyrbin yn hytrach na chwech. Mae hyn yn golygu y bydd holl fuddion y prosiect yn cael eu gwiredd, a bydd unrhyw effeithiau negyddol yn cael eu lleihau’n fawr. Bydd llai o draffig, llai o waith adeiladu, ac effaith weledol lawer is ar bentref Tonmawr.

Hyd at

4

thyrbin

Tua

30MW

o ynni, sy'n gwasanaethu 25,000 o gartrefi

*Seiliedig ar ddefnydd cyfartalog aelwydydd yn y DU yn 2021 sef 3748kW/h y flwyddyn.

Amdanom ni

Menter ar y cyd rhwng Nadara a REG Windpower, dau gwmni ynni adnewyddadwy blaenllaw sy’n pweru miliynau o gartrefi ledled y DU ac Ewrop, yw Naturalis.

NEWYDDION DIWEDDARAF

Tanysgrifiwch i gael y newyddion diweddaraf drwy e-bost am ein cynlluniau wrth iddynt ddatblygu.