Buddsoddiad cymunedol

Yn ogystal â helpu i leihau costau ynni i dalwyr biliau, mae ein ffermydd gwynt yn cefnogi cymunedau lleol mewn sawl ffordd, o blannu coed i wella effeithlonrwydd ynni lleol.

Gydol oes Fferm Wynt Mynydd Fforch-dwm, byddwn yn darparu pecyn buddsoddi gwerth £5,000 y MW i’r gymuned leol.

Rydym ni’n gweithio gyda’r gymuned leol i ddylunio pecyn buddsoddi cymunedol sy’n ymateb i anghenion a buddiannau lleol. Byddwn yn gofyn am eich adborth mewn digwyddiadau lleol cyn y gwaith adeiladu.

Hefyd, rydym yn archwilio opsiynau i bobl leol ac unigolion a sefydliadau’r sector cyhoeddus fuddsoddi yn y prosiect, fel rhan o’n hymrwymiad i berchnogaeth leol.

Cynllun plannu coed gyda chymorth Fferm Wynt Auchrobert

NEWYDDION DIWEDDARAF

Tanysgrifiwch i gael y newyddion diweddaraf drwy e-bost am ein cynlluniau wrth iddynt ddatblygu.